Dyma rai awgrymiadau ar gyfer bod yn fusnes mwy cynaliadwy. Ddim be’ oeddet ti’n ddisgwyl?

  • Byddwch yn garedig, cofiwch bod pawb yn brwydro’n galed
  • Neilltuwch amser i chwythu cloc dant y llew
  • Codwch ddarn o sbwriel – bydd y lle’n harddach i’r person ddaw ar eich hôl
  • Peidiwch â chymryd eich teulu (na’ch cyd-weithwyr) yn ganiataol
  • Mae pob diwrnod y ddechrau newydd – joiwch!
  • Cofiwch am y rhai sy’n llai ffodus na chi – dewisiwch achos da a dechreuwch gyfrannu ato
  • Nid fydd pocedi i’ch amdo, felly edrychwch tu hwnt i elw am y pethau sy’n bwysig go iawn

"Mae prawf iechyd SBBS wedi bod yn offeryn defnyddiol iawn yn ein gwaith parhaol o ddatblygu cynllun o gyfrifoldeb cymdeithasol. Amlygodd y prawf iechyd rhai pethau o bwys nid oeddem wedi eu hystyried o'r blaen, a chadarnhau nifer o'n syniadau ar gyfer gwellhau."

Sefydliad Bagloriaeth Ryngwladol