Yr hyn gallwn ni gynnig i'ch cynorthwyo...
• Prawf iechyd cynaliadwyedd - Gorolwg cyflawn o'ch gweithgareddau sy'n cyfannu at gynaliadwyedd wedi'i deilwra ar gyfer anghenion eich busnes neu sefydliad yn defnyddio meddalwedd arbenigol.
Beth ar y ddaear yw hynny?
Bydd un o'n ymarferwyr clen ni'n ymweld â'ch cwmni am sgwrs ynglyn â'ch agwedd tuag at agweddau ar gynaliadwyedd - gwneud arian, edrych ar ôl pobl, parchu'r blaned. Mae gennym feddalwedd sy'n gallu dangos eich hatebion ar ffurf graffiau, gallwn gynhyrchu adroddiad lliwgar a thrafod gyda chi beth hoffech chi wneud yn well/wahanol i'r dyfodol. Y peth pwysig i gofio yw nad ni yw'r heddlu cynaliadwyedd , d'oes na ddim atebion iawn neu anghywir fel y cyfryw a does dim diddordeb gyda ni mewn cael ein twyllo gan ymdrechion i'n plesio. Dyma'ch cyfle i fod yn onest gyda chi'ch hunain a gyda ni, a fyddwn ni ddim yn datgelu dim i neb - heblaw eich bod yn barod i frolio am eich cyrhaeddiadau.
Gallwn gynnig y canlynol i chi hefyd:
• Cymorth i ddatblygu polisi cynaliadwyedd (yn cynnwys polisi amgylcheddol), datganiad cynaliadwyedd a chynllun gweithredu.
• Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o ddatblygu cynaliadwy
• Cyfrifon o allyriadau carbon uniongyrchol
• Adolygiad o'ch gwaelodlin amgylcheddol
Cysylltwch â ni er mwyn trafod y posibiliadau ymhellach


