Rydym wedi gweithio gyda mwy na 250 o fusnesau yn amrywio o ran maint a sectorau ar draws Cymru.  Dyma rhai o’r busnesau sydd wedi cyflawni prawf iechyd cynaliadwyedd SBBS:

 Acorn Chemical Services Ltd, Castell Nedd - Port Talbot, Cyflenwad cemegau diwydiannol

DLT Training, Pen-y-bont ar Ogwr, Hyfforddiant diwydiannol a pheiriannau

Evadx, Conwy, Gwneuthurwyr dur

Footstep Nursery, Merthyr Tudful, Meithrinfa

Fort Knox, Blaenau Gwent, Diogelwch

Gomer, Ceredigion, Argraffu a chyhoeddi

Gray’s Waste, Sir Fôn, Contractwyr gwastraff

Hafod Elwy Hall, Dinbych, Twristiaeth

Icon Computers, Abertawe, Technoleg gwybodaeth

Just Rollers, Torfaen, Gwneuthurwyr

Kevin Garland Photography, Rhondda Cynon Taf, Ffotograffiaeth

Parkwood Chiropractic Clinic, Caerffili, Ciropracteg

Soap Shed, Sir Benfro, Gwneuthurwyr

Sundance Renewables, Sir Gar, Egni

Twelfth Man Marketing, Gwynedd, Marchnata

Cwmniau sydd wedi derbyn prawf iechyd cynaliadwyedd SBBS

Map of Wales with client locations

Astudiaeth achos: The Knobbly Carrot Food Company
Mae’r Knobbly Carrot Food Company yn gwmni bwyd organig yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.  Maent yn cynhyrchu ystod o gawliau, sawsiau pasta, llenwadau brechdanau a saladau parod sydd wedi eu hardystio yn organig gan Gymdeithas y Pridd.  Maent wedi ennill nifer o wobrau am eu cynnyrch. Gan eu bod yn cael eu gwneud o lysiau organic ffres, lleol lle yn bosib, mewn sypiau bychan mae blas bwyd cartref iach i’r cynnyrch.  Eleni meant wedi ennill gwobr Gwir Flas am eu cawl Luscious Lentil a llysiau gwledig.

Daeth Stephanie Bond o’r cwmni The Knobbly Carrot i ddigwyddiad sioe deithiol cynaliadwyedd SBBS, a chymrodd nodiadau manwl, a’u hymgorffori  mewn cynnig prosiect, a llwyddodd i gael grant i’w cynorthwyo gyda datblygu cynnyrch.  Ers hynny maent wedi lansio eu hystod fasnachol newydd o gawliau organic, sydd wedi ennill sawl gwobr, mewn cydiau 500g ecogyfeillgar.  Cynhaliwyd ymchwil (gan weithio mewn partneriaeth gyda Ecodesign Wales) i’r farchnad becynnu am dros 12 mis er mwyn dod o hyd i ddewis eco cyfeillgar arall i’r potiau plastig oeddynt yn arfer eu defnyddio.  Y canlyniad yw cydiau plastig sy’n defnyddio 44% yn llai o blastig na’r potiau arferol.  O ganlyniad maent yn ysgafnach, llai ac yn haws i’w defnyddio, gellir eu pacio yn fwy cyfleus, mae ganddynt oes silff o 28 diwrnod, cymryd llai o le ac yn gyfan gwbl fwy cyfeillgar!

Mae’r Knobbly Carrot Food Company yn ystyried effeithiau eu holl benderfyniadau busnes ar gynaliadwyedd a dangosodd canlyniad prawf iechyd cynaliadwyedd SBBS eu bod yn sgorio yn uchel ar elfennau cymdeithasol ac amgylcheddol yn ogystal ag elfennau economaidd.  Yn ôl Stephanie (cyfarwyddwr y cwmni)
“Rydym yn falch o’r hyn yr ydym yn ei wneud.  Mae wedi bod yn waith caled ond rwy’n credu ein bod wedi profi y gall busnes fod yn beth adeiladol yn hytrach na dinistriol.  Rydym yn gwneud bwyd sy’n ennill gwobrau heb ddinistrio’r blaned!”

"Mae prawf iechyd SBBS wedi bod yn offeryn defnyddiol iawn yn ein gwaith parhaol o ddatblygu cynllun o gyfrifoldeb cymdeithasol. Amlygodd y prawf iechyd rhai pethau o bwys nid oeddem wedi eu hystyried o'r blaen, a chadarnhau nifer o'n syniadau ar gyfer gwellhau."

Sefydliad Bagloriaeth Ryngwladol