Gweithredir gwasanaeth SBBS gan dîm o arbenigwyr o Brifysgol Bangor, a rhwydwaith o ymarferwyr wedi eu lleoli ar draws Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cyrraedd diwedd prosiect Amcan 1, Synnwyr Busnes - Business Sense, wedi ei ariannu ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Brifysgol.
Mae ein gwreiddiau mewn prosiect o’r enw CCAE Cymru (Cynaliadwyedd: Cymuned, Amgylchedd ac Economi Cymru), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y prosiect oedd bod arbenigwyr ar fusnes a chynaliadwyedd o’r Brifysgol yn gweithio gydag ystod eang o gyrff o bob rhan o Gymru er mwyn diffinio union ystyr datblygu cynaliadwy i sefydliadau yng Nghymru, ac i ddatblygu dull o werthuso pa mor gynaliadwy yw gweithgaredd sefydliad penodol. Nawr, rydym ni wedi addasu’r gwerthusiad yma, ac yn ei ddefnyddio fel dull o helpu busnesau bach a chanolig ddeall eu cyrhaeddiad presennol, o ran cynaliadwyedd, ac awgrymu’r ffyrdd hawsaf o wella.
Tan yn ddiweddar, cwmnïau mawr corfforaethol yn bennaf sydd wedi blaenoriaethu datblygu cynaliadwy a’i ystyried yn ymarfer busnes da. Bellach mae’r cymhelliant i fynd i’r afael â datblygu cynaliadwy yn cael ei drosglwyddo trwy’r gadwyn gyflenwi gan y cwmniau mawr a Llywodraeth y Cynulliad. Er mwyn tendro am lawer o gytundebau, bydd yn rhaid i ddarparwyr ddangos eu bod yn gweithredu ar y mater yma – ac rydym ni yma i helpu rhoi cwmniau ar ben ffordd.
Bydd cwmniau sy’n defnyddio’n gwasanaeth yn helpu cyfraniad Cymru tuag at ddatblygu cynaliadwy ar lefel byd-eang. Yn ystod ein lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe dywedodd Andrew Davies oedd yn weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ar y pryd :
“Cymru yw un o’r unig ddeddfwriaethau yn y byd sydd ag ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn rhan o’i gyfansoddiad sylfaenol” ac
“Mae’n ddyletswydd rydym yn cymryd o ddifrif – ac rwyf yn falch fod yma ddull arloesol sy’n helpu gwireddu ein hymrwymiad i sicrhau Cymru lân, werdd”.
"Gwnaeth Synnwyr Busnes fy nghynorthwyo i adnabod ffyrdd o wellau fy mherfformiad amgylcheddol a chymunedol a sut i gyfleu hyn i'n cwsmeriaid"


