Croeso i’n gwefan.
Rydym ni’n wasanaeth cefnogi arbennigol ar ddatblygu cynaliadwy. Rydym yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau o bob math, yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein cartref ym Mhrifysgol Bangor, ond mae gennym rwydwaith o arbennigwyr wedi eu lleoli ledled Cymru.
’Nôl yn 2006, cawsom arian ac amser gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu busnesau yng Nghymru ddysgu mwy am be’ mae datblygu cynaliadwy yn ei olygu iddyn nhw. Ers hynny rydym wedi defnyddio ein profiad cynyddol a’n ystod eang o arbennigedd i ddatblygu ein cynnyrch, ac o ganlyniad gallwn gynnig gwasanaeth sydd yn hollol unigryw, proffesiynnol ac addas i’ch anghenion penodol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynaliadwyedd, neu dim ond eisiau cael staff gwych, cyflenwyr hapus a chwsmeriaid teyrngar, dewch atom ni yn gyntaf.
Crwydrwch ein gwefan - cewch ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei gynnig, a sut y gall eich sefydliad fanteisio o roi ystyriaeth bellach i gynaliadwyedd. Cewch hefyd ddarganfod pwy sydd wedi gweithio gyda ni hyd yma, a chael rhai syniadau a all fod yn fan cychwyn da ar eich taith tuag at gynaliadwyedd.


